Denbighshire County Council 2023 Wildflower Meadow Project
Mae’r safleoedd canlynol yn Rhuddlan wedi cael eu dewis fel safleoedd posibl ar gyfer Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt Cyngor Sir Ddinbych 2023. Os byddant yn cael eu dewis, bydd pob un o’r safleoedd hyn yn cael eu rheoli mewn ffordd wahanol, ac yn hytrach na thorri’r glaswellt yn aml, byddant yn creu ardaloedd o flodau gwyllt mewn mannau cyhoeddus. Y nod yw cynyddu bioamrywiaeth.
Er mwyn rheoli dolydd blodau gwyllt ni fydd y glaswellt yn cael ei dorri rhwng mis Mawrth a mis Awst bob blwyddyn, gan roi cyfle i flodau gwyllt dyfu, blodeuo a ffurfio hadau. Yn achos y safleoedd hyn, bydd tîm bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych yn monitro’r twf a’r bioamrywiaeth bob mis a bydd y gwasanaeth strydlun yn torri border yn unig o amgylch y safleoedd yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y safleoedd yn cael eu torri’n llawn ar ddechrau mis Medi.
Mae Cyngor Tref Rhuddlan yn gofyn am adborth gan Breswylwyr ar y cynnig hwn. Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch neges e-bost at glerc y cyngor:
clerk@rhuddlantowncouncil.gov.uk.
Safleoedd a Awgrymir:
Biodiversity Verge Pilot Sites 2023