CADWCH YN WYBODUS

Rhybydd gwerthu pysgod ffres!

Community Events

Rhannwch y Post:

Rhybydd gwerthu pysgod ffres!

Rhybuddir defnyddwyr ar draws Sir Ddinbych i fod yn wyliadwrus o werthwyr pysgod yn ceisio perswadio deiliaid tai i brynu pysgod ffres. Mae safonau masnach Sir Ddinbych a Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn adroddiadau yn ystod wythnos olaf masnachwyr yn gwerthu o ddrws i ddrws yn ardal Dyffryn Dyfrdwy, yn gofyn i drigolion a fyddent yn hoffi prynu pysgod. Dywedodd y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Chymunedau Diogelach: “Mae gennym bryderon ynghylch y mater, yn enwedig ynghylch a yw’r gwerthwyr pysgod wedi cofrestru fel gweithredwr busnes bwyd sy’n ofyniad cyfreithiol i bob busnesau bwyd, ac yn wir os ydynt yn glynu at yr holl reoliadau diogelwch a hylendid bwyd sy’n berthnasol i fusnesau o’r fath, gan gynnwys arddangos y sgôr hylendid bwyd berthnasol ar gyfer y busnes. “Fel gydag unrhyw alwyr sy’n galw ar stepen y drws byddem yn annog pobl i beidio â chael eu temtio i brynu a gofyn iddynt adael. Os teimlwch eich bod yn cael eich pwyso i brynu’r pysgodyn neu na fydd y masnachwr yn gadael pan ofynnir i chi, yna cysylltwch â’r heddlu ar unwaith. “Byddem yn eich cynghori i brynu pysgod gan werthwr pysgod ag enw da mewn siop neu stondin sydd wedi’i hen sefydlu neu hyd yn oed gyda masnachwr gyda rownd rheolaidd wedi’i threfnu ymlaen llaw.” Gall unrhyw un sydd eisiau ail-fasnachu ar stepen y drws, neu i roi gwybod am ddigwyddiad, gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 2231133 (08082231144 ar gyfer y Gymraeg) sy’n rhoi cyngor rhad ac am ddim, annibynnol a diduedd ar bob mater sy’n ymwneud â defnyddwyr, neu’r heddlu ar 101. Gareth Watson Rheolwr Tim Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd/ Team Leader – Communications and Campaign Management Cwsmeriaid a Chymunedau / Communities and Customers Ffôn/tel: 01824 706222 E-bost: gareth.watson@sirddinbych.gov.uk E-mail: gareth.watson@denbighshire.gov.uk