Sir Ddinbych yn Annog Busnesau i Ymgeisio am Grantiau
Mae mwy o gyllid ar gyfer Covid-19 ar gael yn awr yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn helpu i weinyddu cronfeydd Llywodraeth Cymru i fusnesau y mae’r cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2 wedi effeithio arnynt.
Gall busnesau â throsiant mwy na £85,000 wneud cais yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru drwy’r gwasanaeth Busnes Cymru, a gall busnesau â throsiant llai na £85,000 gyflwyno’u ceisiadau i’r Cyngor.
Mae’r busnesau canlynol yn gymwys:
- Clybiau nos, mannau adloniant hwyr y nos a lloriau sglefrio
- Mannau cynnal digwyddiadau a chynadleddau
- Busnesau na fedr agor dan do rhwng Mai 1 a Mai 17 ac sydd wedi cael gostyngiad mewn trosiant
- Mannau lletygarwch yn gweithredu dan gyfyngiadau Lefel Rhybudd 2 o Fai 17 tan Fehefin 30
- Busnesau yn y gadwyn gyflenwi y mae’r cyfyngiadau wedi effeithio’n arwyddocaol ar eu trosiant
Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym unwaith eto’n annog busnesau i ymgeisio am y cyllid gan Lywodraeth Cymru.
“Mae’n hollbwysig fod busnesau yn y sir yn ymgeisio am grantiau er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr holl gefnogaeth sydd ar gael iddynt, sy’n helpu i ddiogelu swyddi a’r economi yn Sir Ddinbych.”
I weld a ydych chi’n gymwys ac i wneud cais, ewch i
www.sirddinbych.gov.uk/cy/coronafeirws/cymorth-busnes-cronfa-cadernid-economaidd.aspx

