Cronfa Rhwydwaith Cyfamod y Lluoedd Arfog
Mae gan rwydwaith Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru arian ar gael ar hyn o bryd i gefnogi grantiau bach ar gyfer gwaith prosiect yng Nghymru sy’n cefnogi aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog. Trwy’r ffurflen gais hon, gallwch chi bellach wneud cais am hyd at £1,000 o gyllid grant fesul sefydliad.
Bydd y grant hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cyfres o brosiectau bach sy’n cynorthwyo, yn dathlu ac yn codi ymwybyddiaeth am Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae ceisiadau’n cael eu croesawu i allu darparu prosiectau/digwyddiadau/gweithgareddau rhwng mis Mai 2021 a Mawrth 2022.
Bydd y gronfa hon yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar ran Llywodraeth Cymru a CLlLC. Gallwch anfon unrhyw ymholiadau am y grant at Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog ar stephen.townley@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio 01978 292267.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi’u llenwi mewn e-bost at: stephen.townley@wrexham.gov.uk erbyn dydd Gwener 30 Ebrill, 2021.
I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i’r ymgeisydd fod yn sefydliad gwirfoddol neu grŵp cymunedol cyfansoddedig a sefydledig, a bod â chyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn enw’r sefydliad neu â sefydliad cynnal sy’n barod i dderbyn yr arian ar eu rhan (ni chaiff taliadau eu gwneud i unigolion). Ni chaiff ceisiadau gan unigolion eu derbyn.
