Llongyfarchiadau i Little Flowermonger

Llongyfarchiadau i Little Flowermonger Mae’r Little Flowermonger, Rhuddlan wedi cael ei anrhydeddu gan Gymdeithas Blodeuwyr Prydain eleni. Roedd yn arddangos ei arddangosfa ar gyfer Dydd San Ffolant ac fe’i henwebwyd gan ei holl aelodau ledled y Deyrnas Unedig. Llongyfarchodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Maer y Dref y perchennog Mrs Bell tra ar ymweliad â’r siop.

Coffi, mins peis a Carolau yn Rhuddlan

Coffi, mins peis a Carolau yn Rhuddlan Cafodd Grŵp Dementia Rhuddlan fore coffi gwych gyda mins peis a charolau. Cynhaliwyd y digwyddiad i hyrwyddo gwaith y Grŵp wrth ddarparu gwybodaeth am ddementia yn Rhuddlan ynghyd â rhoi cyhoeddusrwydd i weithgareddau’r Grŵp fel Music Memories a Sit and be Fit, sydd ar agor i bawb ac…

Rhodd Elusennol Maer

Pleser oedd mynychu gwasanaeth y pnawn ‘ma yn Ysgol y Castell. Wedi y cyngerdd yn mis Medi a drefnwyd gan ein Clerc a’r Maer cawsom elw o £800. Rhanwyd yr elw rhwng Pwyllgor Apel Rhuddlan, Dyserth, Rhyl a Bodelwyddan tuag at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych 2020 a Mudiad Clic Sargant yng Ngogledd Cymru.

The Littleflowermonger

Roedd yn bleser mawr gan y Maer agor y siop newydd ar Rhuddlan’s High Street gyda’r perchennog o’r busnes Jacqui Bell. Mae hi wedi bod yn y busnes ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Ar un adeg roedd ganddi siop lwyddiannus a thebyg yn Ealing, Llundain. Mae hi’n wrth ei bodd hefo Ddinbych a Rhuddlan a chafodd ei haddysg yn ein sir.