Lansio Ymgynghoriad Awyr Dywyll

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei lansio ar ‘Gynllunio ar gyfer Awyr Dywyll: Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer goleuadau yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy”
Mae Cyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ceisio barn ar nodyn Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer goleuadau yn yr AHNE.

Lansio Wythnos Gofalwyr

Cynhaliwyd lansiad wythnos Gofalwyr ddydd Llun 7 Mehefin yng Ngwarchodfa Natur Rhuddlan. Yn bresennol roedd Dr James Davies AS, y Cyng Christine Marston Is-gadeirydd Cyngor Sir Sir Ddinbych, Pencampwr Gofalwyr y Cyng Ann Davies Sir Ddinbych, Maer Rhuddlan y Cynghorydd Mike Elgin a’i Gonsort, y Cynghorydd Bobby Feeley Aelod arweiniol dros Les ac Annibyniaeth, cynrychiolwyr NEWCIS a Gofalwyr a’u teuluoedd.

Sir Ddinbych yn Annog Busnesau i Ymgeisio am Grantiau

Mae mwy o gyllid ar gyfer Covid-19 ar gael yn awr yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden. Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn helpu i weinyddu cronfeydd Llywodraeth Cymru i fusnesau y mae’r cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2 wedi effeithio arnynt. Gall busnesau â throsiant mwy na £85,000 wneud cais yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru drwy’r gwasanaeth Busnes Cymru, a gall busnesau â throsiant llai na £85,000 gyflwyno’u ceisiadau i’r Cyngor.