Diolch i Beti Noel Jones

Achlysur trist ond eto pleser oedd cyflwyno diolch. Yn y llun gwelir Dr Wong, Y Cynghorydd Sir,Ann Davies, Maer Rhuddlan a’r Cynghorydd Sir,Arwel Roberts, Mrs Beti Noel Jones, Dr Rachael Reed a Mrs Awen Roberts gwraig y Maer. Pleser oedd bod yn bresennol mewn achlysur o flaen y feddygfa yn RHUDDLAN. Cyfle oedd hwn i ddiolch i Mrs Jones am ei gweithgarwch yn casglu arian i brynu cyfarpar meddygol i’r doctoriaid a’r staff.

Canllawiau Dychwelyd i’r Gwaith i Fusnesau

Wrth i ni symud drwy’r heriau o ddelio gyda’r Covid-19 a dechrau edrych yn ofalus ar symud o’r cyfnod clo ar draws gwahanol feysydd busnes, mae ystod o gefnogaeth a chanllawiau ymarferol wedi eu llunio gan amrywiol asiantaethau.    Mae’r ddogfen hon yn darparu dolen i’r amrywiol ganllawiau a gyhoeddwyd i helpu busnesau agor yn ddiogel a chynnal hyder cwsmeriaid.