Gweithgareddau Aml-Chwaraeon Cymunedol Haf 2021

Gweithgareddau Aml-Chwaraeon Cymunedol Haf 2021 Oedran 6-11 oed 26ain Gorffennaf 14:00-16:00 5ed Awst 10:00-12:00 11eg Awst 14:00-16:00 16eg Awst 14:00-16:00 23ain Awst 14:00-16:00 Yn gyfyngedig i 30 lle y sesiwn Rhaid archebu ymlaen llaw gan ddefnyddio’r linc isod: https://www.eventbrite.co.uk/e/community-summer-multi-sportactivities-tickets-162286835293 Lleoliad – Caeau Admirals, Rhuddlan

Arian ar gyfer digwyddiadau cymunedol yn Sir Ddinbych

Denbighshire County Council has announced a one-off grant funding opportunity for communities that host and organise events in Denbighshire.
The aim of the fund will be to improve the current infrastructure to support more sustainable and cost effective events, making it easier to host more events in local communities.
A total budget of £128,000 is available, to be shared by successful applicants across Denbighshire.

Llyfrgelloedd yn Agor ar Gyfer Pori Unwaith Eto

Gall pobl lleol yn Sir Ddinbych rwan alw mewn i’w llyfrgell leol i bori, dewis a dychwelyd llyfrau heb apwyntiad. Bydd dal angen gwneud apwyntiad i ddefnyddio cyfrifiadur, i drefnu desg astudio ac i gael mynediad i wasanaethau Siopau Un Alwad trwy ffonio eu llyfrgell leol. Mae llyfrgelloedd yn lefydd diogel i ymweld gyda digon o le ar gyfer ymbellhau cymdeithasol, niferoedd cyfyngedig o bobl ar y tro, a glanweithydd dwylo ac offer ar gael.

Baeddu Cŵn – y ffeithiau

Un o brif achosion llid i bawb – gan gynnwys llawer o berchnogion cŵn – yw baeddu cŵn mewn mannau cyhoeddus. Rhaid i bawb rannu’r un gofod hamdden ac nid oes unrhyw beth gwaeth na gorfod chwilio am baw cŵn yn gyson i’ch atal chi neu’ch plant rhag camu neu hyd yn oed syrthio iddo. Mae’n berygl iechyd go iawn ei adael lle mae’n gorwedd – ar balmentydd, mewn parciau a meysydd chwarae ac mae hefyd yn erbyn y gyfraith.

Llyfrgell Rhuddlan a Siop Un Alwad Lleol – Orian Agor

Gallwch nawr ymweld â’ch llyfrgell leol i bori, dewis, benthyg a dychwelyd llyfrau yn ystod yr oriau agor cyfredol.
Byddwch angen gwneud apwyntiad i ddefnyddio cyfrifiadur ac argraffu, i drefnu desg i astudio, ac i gael mynediad i wasanaethau Siopiau Un Alwad, er mwyn i ni sicrhau fod digon o le i gadw pawb yn ddiogel. Ffoniwch eich llyfrgell leol i wneud apwyntiad. Bydd sesiwn ar gyfrifadur yn 1 awr ar hyn o bryd. Byddwch angen eich cerdyn llyfrgell i drefnu sesiwn cyfrifiadur.