Drysau Agored 2021

Mis Medi yma bydd mwy na 150 o safleoedd hanesyddol, tirnodau a rhyfeddodau annisgwyl Cymru yn cynnig mynediad am ddim, digwyddiadau neu deithiau tywys i ymwelwyr. Mae’r cyfan yn rhan o gynllun Drysau Agored – cyfraniad blynyddol Cymru i fenter Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd.