Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

Mae Cyngor Tref Rhuddlan yn ymuno â’r genedl i alaru yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.

Mae marwolaeth y Frenhines Elizabeth yn achlysur eithriadol o drist. Mae ei gwasanaeth ac ymroddiad i’n gwlad am dros 70 mlynedd wedi bod yn eithriadol, ac mae hi wedi cyffwrdd bywydau llawer o bobl ar draws y wlad – a’r byd. Mae cynifer o bobl yn ei charu a bydd y golled ar ei hôl yn enfawr.

Rhag-rybudd o ffyrdd ar gau

Mae Cyngor Sir Ddinbych am gynnal gwaith cynnal a chadw ar yr A525 a’r A547 yng ngogledd y sir yn hwyrach yn y mis.
Bydd y gwaith yn cynnwys torri gwair, casglu sbwriel, glanhau draeniau ac atgyweirio goleuadau stryd ac yn cymryd lle rhwng 7pm a 6am ar y dyddiadau a nodir. Bydd y ffyrdd ar gau i gerbydau a cherddwyr ac mi fydd arwyddion yn gwyro’r traffig ar hyd ffyrdd eraill.